Mark 14:65 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r ei a ddechreuawdd poeri arnaw, a chuddiaw ei wynep, a’ ei ddyrnodiaw, a’ dywedyt wrthaw, Prophwyta. A’ ringilliait y trawsont ef a ei gwiail.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dechreuodd rhai boeri Arno, a gorchuddio Ei wyneb Ef, a’i gernodio Ef, a dywedyd Wrtho, Prophwyda. A’r gweinidogion a’i dyrnodiasant Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dechreuodd rhai boeri arno, a mygydu ei wyneb, a’i gernodio, a dywedyd wrtho, “Proffwyda!” A’r gwasanaethyddion a’i derbyniodd ef â dyrnodiau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dechreuodd rhai boeri arno, a chuddio ei wyneb, a'i gernodio; a dywedyd wrtho, Proffwyda. A'r gweinidogion a'i trawsant ef â gwiail.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma rai ohonyn nhw'n dechrau poeri ato, a rhoi mwgwd dros ei lygaid, a'i ddyrnu yn ei wyneb. “Tyrd, Proffwyda!”, medden nhw. Wedyn dyma'r gweision diogelwch yn ei gymryd i ffwrdd a'i guro.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dechreuodd rhai boeri arno a rhoi gorchudd ar ei wyneb, a'i gernodio a dweud wrtho, "Proffwyda." Ac ymosododd y gwasanaethwyr arno dyrnodiau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A rhai a ddechreuasant boeri arno, a rhoi gorchudd ar ei wyneb, a'i gernodio, a dywedyd wrtho, Proffwyda. A'r is‐swyddogion a'i derbyniasant ef i'w cadwraeth, gan ei daro.