Mark 14:67 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan ganvu hi Petr yn ym dwymo, hi a edrychodd arnaw, ac a ddyvot, Ti the hefyt oeddyt gyd a Iesu o Nazaret.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a chan weled Petr yn ymdwymno, ac wedi edrych arno, dywedodd, A thithau hefyd, ynghyda’r Natsaread yr oeddit, yr Iesu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac wrth weled Pedr yn ymdwymo, hi edrychodd arno, ac medd hi, “Yr oeddit tithau hefyd gyda’r Nasaread Iesu.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ganfu hi Pedr yn ymdwymo, hi a edrychodd arno, ac a ddywedodd, Tithau hefyd oeddit gyda'r Iesu o Nasareth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Digwyddodd sylwi ar Pedr yn cadw'n gynnes yno, a stopiodd i edrych arno. “Roeddet ti'n un o'r rhai oedd gyda'r Nasaread Iesu yna!” meddai.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a phan welodd Pedr yn ymdwymo edrychodd arno ac meddai, "Yr oeddit tithau hefyd gyda'r Nasaread, Iesu."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a phan ganfu hi Petr yn ymdwymno, hi a edrychodd arno, ac a ddywed, A thithau oeddit gyd â y Nazarëad, sef Iesu.