Mark 14:68 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a wadawdd, gan ddywedyt, Nyd adwaen i ef, ac ny ’wn beth dwyt yn ei ddywedyt. Yno ydd aeth ef allan ir rhacnauadd, ac a ganawdd y celiawc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac efe a wadodd gan ddywedyd, Nid adwaen i, ac nis gwn pa beth yr wyt ti yn ei ddywedyd; ac aeth allan i’r porth; a cheiliog a ganodd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwadodd yntau, gan ddywedyd, “Ni wn i, ac nid wyf yn deall beth a ddywedi.” Ac fe aeth allan i’r cyntedd;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a wadodd, gan ddywedyd, Nid adwaen i, ac ni wn i beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac efe a aeth allan i'r porth; a'r ceiliog a ganodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond gwadu wnaeth Pedr. “Does gen i ddim syniad am beth rwyt ti'n sôn,” meddai, ac aeth allan at y fynedfa.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond gwadodd ef a dweud, "Nid wyf yn gwybod nac yn deall am beth yr wyt ti'n sn." Ac aeth allan i'r porth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond efe a wadodd, gan ddywedyd, Nid ydwyf yn gwybod nac yn deall beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac efe a aeth allan i'r rhag-gyntedd, [a'r ceiliog a ganodd].