Mark 14:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys cewch y tlodion gyd a chwi bop amser, a phan vynnoch y gellwch wneythy tvvrn da yddwynt, anyd myvi ny chewch bop amser.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys peunydd y mae’r tlodion genych gyda chwi; a phan ewyllysioch, iddynt hwy y gellwch wneuthur daioni, ond Myfi nid beunydd yr wyf genych.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys bob amser y mae gennych y tlodion gyda chwi, a phan fynnoch gellwch wneuthur daioni iddynt hwy; ond myfi, nid oes gennych monof bob amser.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys bob amser y cewch y tlodion gyda chwi; a phan fynnoch y gellwch wneuthur da iddynt hwy: ond myfi ni chewch bob amser.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pobl dlawd o gwmpas bob amser, a gallwch eu helpu nhw unrhyw bryd. Ond fydda i ddim yma bob amser.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r tlodion gyda chwi bob amser, a gallwch wneud cymwynas hwy pa bryd bynnag y mynnwch; ond ni fyddaf fi gyda chwi bob amser.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys bob amser y cewch y tlodion gyda chwi; a phan ewyllysioch, chwi a ellwch wneuthur da iddynt hwy: ond myfi ni chewch bob amser.