Mark 14:72 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r ailwaith y canodd y ceiliawc, ac y cofiawdd Petr y gair a ddywedesei’r Iesu wrthaw, Cyn canu o’r ceiliawc ddwywaith, im gwedy dair-gwaith, ac wrth adveddylied, ef a wylawdd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac yn uniawn am yr ail waith, ceiliog a ganodd, a chofiodd Petr yr ymadrodd, y modd y dywedodd yr Iesu wrtho, “Cyn i geiliog ganu ddwywaith, tair gwaith y’m gwedi I;” a chan ystyried hyny, gwylodd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yn y fan canodd y ceiliog yr ail waith. A chofiodd Pedr yr ymadrodd, fel y dywedodd yr Iesu wrtho, “Cyn i’r ceiliog ganu ddwywaith y’m gwedi deirgwaith”; ac ymollyngodd i wylo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ceiliog a ganodd yr ail waith. A Phedr a gofiodd y gair a ddywedasai'r Iesu wrtho, Cyn canu o'r ceiliog ddwywaith, ti a'm gwedi deirgwaith. A chan ystyried hynny, efe a wylodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A'r foment honno dyma'r ceiliog yn canu am yr ail waith. Yna cofiodd Pedr eiriau Iesu: “Byddi di wedi gwadu dy fod yn fy nabod i dair gwaith cyn i'r ceiliog ganu ddwywaith.” Torrodd i lawr a beichio crïo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yna canodd y ceiliog yr ail waith. Cofiodd Pedr ymadrodd Iesu wrtho, fel y dywedodd, "Cyn i'r ceiliog ganu ddwywaith, fe'm gwedi i deirgwaith." A thorrodd i wylo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn ebrwydd y canodd y ceiliog yr ail waith. A Phetr a gofiodd y gair a ddywedasai yr Iesu wrtho, Cyn canu o'r ceiliog ddwywaith, ti a'm gwedi deirgwaith. A phan ystyriodd, efe a wylodd.