Mark 14:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn wir y dywedaf wrthych, p’le bynac y precethir yr Euangel hon yn yr oll vyt, a’ hyn a wnaeth hon, a adroddir er coffa am denei.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn wir y dywedaf wrthych, Pa le bynnag y pregethir yr Efengyl yn yr holl fyd, yr hyn hefyd a wnaeth hi, a adroddir er coffa am dani.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yn wir meddaf i chwi, pa le bynnag y pregether yr efengyl yn yr holl fyd, yr hyn a wnaeth hon hefyd a adroddir er cof amdani.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn wir meddaf i chwi, Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd, yr hyn a wnaeth hon hefyd a adroddir er coffa amdani.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Credwch chi fi, ble bynnag fydd y newyddion da yn cael ei gyhoeddi drwy'r byd i gyd, bydd pobl yn cofio beth wnaeth y wraig yma hefyd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn wir, rwy'n dweud wrthych, pa le bynnag y pregethir yr Efengyl yn yr holl fyd, adroddir hefyd yr hyn a wnaeth hon, er cof amdani."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn wir meddaf i chwi, Pa le bynag y pregethir yr Efengyl yn yr holl fyd, yr hyn a wnaeth hon hefyd a adroddir er coffadwriaeth am dani.