Mark 15:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AC yn y van ar glais y dydd, ydd aeth yr Archoffeiriait yn ei cygcor gyd ar Henurieit, a’r Gwyr‐llen a’r oll Seneddr, ac arwain yr Iesu ymaith yn rhwym a wnaethant, a’ ei roddy at Pilatus.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn uniawn, yn y bore, wedi ffurfio cynghor, yr archoffeiriaid ynghyda’r henuriaid a’r ysgrifenyddion, ac yr holl gynghor, wedi rhwymo’r Iesu, a ddygasant Ef ymaith, ac a’i traddodasant at Pilat.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yna’r bore, wedi i’r archoffeiriaid gyda’r henuriaid a’r ysgrifenyddion, sef yr holl Sanhedrin, ddarparu cyngor, rhwymasant yr Iesu, a dygasant ef ymaith, a’i draddodi i Bilat.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn y fan, y bore, yr ymgynghorodd yr archoffeiriaid gyda'r henuriaid a'r ysgrifenyddion, a'r holl gyngor: ac wedi iddynt rwymo'r Iesu, hwy a'i dygasant ef ymaith, ac a'i traddodasant at Peilat.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn gynnar iawn yn y bore, dyma'r prif offeiriaid a'r arweinwyr eraill, gyda'r arbenigwyr yn y Gyfraith a'r Sanhedrin cyfan, yn penderfynu beth i'w wneud. Dyma nhw'n rhwymo Iesu a'i drosglwyddo i Peilat.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cyn gynted ag y daeth hi'n ddydd, ymgynghorodd y prif offeiriaid 'r henuriaid a'r ysgrifenyddion a'r holl Sanhedrin; yna rhwymasant Iesu a mynd ag ef ymaith a'i drosglwyddo i Pilat.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn ebrwydd yn y boreu, yr Arch‐offeiriaid gyd â'r Henuriaid a'r Ysgrifenyddion, ie, yr holl Uchel‐Gynghor, a gydymgynghorasant, ac wedi rhwymo yr Iesu, hwy a'i dygasant ef ymaith, ac a'i traddodasant i Pilat.