Mark 15:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys ef a wyddiat mae o genvigen y daroedd ir Offeiriait y vradychy ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys gwyddai mai o genfigen y traddodasai yr archoffeiriaid Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys fe wyddai mai o genfigen y traddodasai’r archoffeiriaid ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
(Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasai'r archoffeiriaid ef.)
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Roedd yn gwybod fod y prif offeiriaid wedi arestio Iesu am eu bod yn genfigennus ohono.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd gwyddai mai o genfigen yr oedd y prif offeiriaid wedi ei draddodi ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys yr oedd wedi dyfod i wybod, mai o herwydd cenfigen yr oedd yr Arch‐offeiriaid wedi ei draddodi ef.