Mark 15:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr yr Archoffeiriait a gyffroesant y popul y ddeisyfy ellwng o hanaw yn hytrach Barabbas yddwynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r archoffeiriaid a gynhyrfasant y bobl, fel yn hytrach y gollyngai Barabba yn rhydd iddynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond cynhyrfodd yr archoffeiriaid y dorf, er cael ganddo yn hytrach ryddhau Barabbas iddynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r archoffeiriaid a gynyrfasent y bobl, fel y gollyngai efe yn hytrach Barabbas yn rhydd iddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma'r prif offeiriaid yn cyffroi'r dyrfa a'u cael i ofyn i Peilat ryddhau Barabbas yn ei le.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond cyffrdd y prif offeiriaid y dyrfa i geisio ganddo yn hytrach ryddhau Barabbas iddynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Arch‐offeiriaid a gynhyrfasant y dyrfa, fel y gollyngai efe yn hytrach Barabbas yn rhydd iddynt.