Mark 15:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac Pilatus atepawdd, ac a ddyvot trachefyn wrthwynt, Beth gan hynny a vynwch i mi i wneythur ac ef yr hwn ydd ych yn ei ’alw yn Vrenhin yr Iuddaeon?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A Pilat trachefn, gan atteb, a ddywedodd wrthynt, Pa beth, gan hyny a wnaf i’r Hwn a alwch “Brenhin yr Iwddewon?”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond atebodd Pilat drachefn, ac meddai wrthynt, “Beth, ynteu, a wnaf â’r un a elwch yn Frenin yr Iddewon?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Pheilat a atebodd ac a ddywedodd drachefn wrthynt, Beth gan hynny a fynnwch i mi ei wneuthur i'r hwn yr ydych yn ei alw Brenin yr Iddewon?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly beth dw i i'w wneud gyda'r un dych chi'n ei alw'n ‛Frenin yr Iddewon‛?” gofynnodd Peilat.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Pilat drachefn, ac meddai wrthynt, "Beth, ynteu, a wnaf hwn yr ydych yn ei alw yn Frenin yr Iddewon?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Philat a atebodd ac a ddywedodd drachefn wrthynt, Beth, gan hyny, a fynwch i mi wneuthur i'r hwn yr ydych yn ei alw Brenin yr Iuddewon?