Mark 15:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac Pilatus a ddyvot wrthynt, Pa ðrwc a wnaeth ef? Ac wy the a lefesant vwyvwy. Croc ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A Pilat a ddywedodd wrthynt, Canys pa ddrwg a wnaeth Efe? A hwy a waeddasant heb fesur, Croes-hoelia Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond dywedai Pilat wrthynt, “Eithr pa ddrwg a wnaeth ef?” Hwythau mwyfwy y gwaeddasant, “Croeshoelia ef.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Peilat a ddywedodd wrthynt, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? A hwythau a lefasant fwyfwy, Croeshoelia ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pam?” meddai Peilat, “Beth mae wedi ei wneud o'i le?” Ond dyma nhw'n dechrau gweiddi'n uwch, “Croeshoelia fe!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai Pilat wrthynt, "Ond pa ddrwg a wnaeth ef?" Gwaeddasant hwythau yn uwch byth, "Croeshoelia ef."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond Pilat a ddywedodd wrthynt, Paham, canys pa ddrwg a wnaeth efe? Ond hwy a lefasant yn daer, Croeshoelier ef.