Mark 15:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy ei trawsant ar ei ben a chorsen, ac a boeresont arnaw, ac a blygesont ei glinie, ac ei addolesant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a churasant Ei ben Ef â chorsen; a phoerasant Arno; a chan benlinio, ymgrymmasant Iddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A churent ei ben â gwialen, a phoerent arno, a chan blygu eu gliniau ymgryment iddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a gurasant ei ben ef â chorsen, ac a boerasant arno, a chan ddodi eu gliniau i lawr, a'i haddolasant ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedden nhw'n ei daro ar ei ben gyda gwialen drosodd a throsodd, ac yn poeri arno. Wedyn roedden nhw'n mynd ar eu gliniau o'i flaen ac yn esgus talu teyrnged iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Curasant ei ben gwialen, a phoeri arno, a phlygu eu gliniau ac ymgrymu iddo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A churasant ei ben ef â chorsen, ac a boerasant arno, a chan fyned ar eu gliniau, hwy a'i haddolasant ef.