Mark 15:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y gofynawdd Pilatus ydd‐aw, Ai ti yw’r Brenhin yr Iuddaeon? Ac ef a atebawdd, ac a ddyvot wrthaw, Tu ei dywedy,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gofynodd Pilat Iddo, Ai Tydi Brenhin yr Iwddewon? Ac Efe, gan atteb iddo, a ddywedodd, Tydi a ddywedaist.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gofynnodd Pilat iddo, “Ai ti yw ‘Brenin yr Iddewon’?” Atebodd yntau a dywed wrtho, “Ti sy’n dywedyd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gofynnodd Peilat iddo, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Peilat yn dweud wrtho, “Felly, ti ydy Brenin yr Iddewon, ie?” “Ti sy'n dweud,” atebodd Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Holodd Pilat ef: "Ai ti yw Brenin yr Iddewon?" Atebodd yntau ef: "Ti sy'n dweud hynny."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A gofynodd Pilat iddo, Ai tydi yw Brenin yr Iuddewon? Ac efe, gan ateb, a ddywed wrtho, Tydi ydwyt yn dywedyd.