Mark 15:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy yddwynt ei watwor ef, wy a ddioscesont y porphor y amdanaw, ac ei gwiscesont ef oei ddillat ehun, ac ei arwenesont allan y’w groci.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan watwarasant Ef, tynnasant oddi am Dano y porphor, a rhoisant am Dano Ei ddillad Ei hun; a dygasant Ef allan fel y croes-hoelient Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi iddynt ei watwar, diosgasant y porffor oddi amdano, a gwisgasant ef â’i ddillad ei hun; a dygant ef ymaith i’w groeshoelio.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddynt ei watwar ef, hwy a ddiosgasant y porffor oddi amdano, ac a'i gwisgasant ef â'i ddillad ei hun, ac a'i dygasant allan i'w groeshoelio.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedden nhw wedi blino cael sbort, dyma nhw'n tynnu'r clogyn porffor oddi arno a'i wisgo yn ei ddillad ei hun unwaith eto. Wedyn dyma nhw'n ei arwain allan i gael ei groeshoelio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac wedi iddynt ei watwar, tynasant y porffor oddi amdano a'i wisgo ef 'i ddillad ei hun. Yna aethant ag ef allan i'w groeshoelio.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddynt ei watwar ef, hwy a ddiosgasant y porphor oddi am dano, ac a'i gwisgasant ef â'i ddillad ei hun, ac a'i harweiniasant allan i'w groeshoelio.