Mark 15:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy a gym p ellesont vn oedd yn mynet heibio, a elvvit Simon o Cyren, (yr hwn a ddeuthei o’r ’wlat, ac ytoeð tad Alexander a’ Rufus) y ddwyn y groc ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chymhellasant ryw un oedd yn myned heibio, Shimon o Cyrene, yn dyfod o’r wlad, tad Alecsander a Rwphus, i ddwyn Ei groes Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gorfodant un yn myned heibio, Simon o Gyrene, ar ei ffordd o’r wlad, tad Alexander a Rwffws, i gymryd ei groes ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a gymellasant un Simon o Cyrene, yr hwn oedd yn myned heibio, wrth ddyfod o'r wlad, sef tad Alexander a Rwffus, i ddwyn ei groes ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd dyn o Cyrene o'r enw Simon yn digwydd mynd heibio (tad Alecsander a Rwffus) — roedd ar ei ffordd i mewn i'r ddinas. A dyma'r milwyr yn ei orfodi i gario croes Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gorfodasant un oedd yn mynd heibio ar ei ffordd o'r wlad, Simon o Cyrene, tad Alexander a Rwffus, i gario ei groes ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac y maent yn dir‐gymhell i wasanaeth un ag oedd yn myned heibio — Simon o Cyrene, (fel yr oedd yn dyfod o'r wlad) tad Alexander a Rufus — fel y dygai ei groes ef.