Mark 15:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy ei ducesont y le a elwir Golgotha, yr hwn yw oei ddeongl, y benglocva.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A daethant ag Ef i’r lle Golgotha, yr hwn yw o’i gyfieithu, Lle’r Benglog.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dygant ef i’r lle Golgotha, hynny yw o’i gyfieithu lle Penglog.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a'i harweiniasant ef i le a elwid Golgotha; yr hyn o'i gyfieithu yw, Lle'r benglog:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n dod â Iesu i Golgotha (sy'n golygu ‛Lle y Benglog‛),
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daethant ag ef i'r lle a elwir Golgotha, hynny yw, o'i gyfieithu, "Lle Penglog."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac y maent yn ei ddwyn ef i'r lle, Golgotha, yr hyn yw, wedi ei ddeongli, Lle Penglog: