Mark 15:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wedy yddynt y groci ef, wy a rannesont ei ddillat, gan vwrw coelbrenni am danwynt, pa gaffei pop vn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chroes-hoeliasant Ef, a rhannasant Ei ddillad, gan fwrw coelbren arnynt, pa beth a pha bwy a gai.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chroeshoeliant ef, a rhannant ei ddillad, gan fwrw coelbren arnynt, beth a gâi pob un.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddynt ei groeshoelio, hwy a ranasant ei ddillad ef, gan fwrw coelbren arnynt, beth a gâi pob un.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl ei hoelio ar y groes dyma nhw'n gamblo i weld pwy fyddai'n cael ei ddillad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chroeshoeliasant ef, a rhanasant ei ddillad, gan fwrw coelbren arnynt i benderfynu beth a gi pob un.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac y maent yn ei groeshoelio ef, ac yn rhanu yn eu plith ei ddillad ef, gan fwrw coelbren arnynt, pa beth a gawsai pob un.