Mark 15:29 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r ei oedd yn myned heibiaw, y ceplynt ef, can yscytwyt ei pennae, a’ dywedyt, Och, tydi yr hwn a ddinistryt y Templ, ac ei adailyt mewn tri‐die,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r rhai yn myned heibio a’i cablasant Ef, gan siglo eu pennau, a dywedyd, Och, yr Hwn wyt yn chwalu’r deml, ac yn adeiladu mewn tridiau;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r rhai oedd yn myned heibio a’i cablai ef, gan ysgwyd eu pennau a dywedyd, “Hai, ddymchwelwr y deml a’i hadeiladwr mewn tridiau,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r rhai oedd yn myned heibio a'i cablasant ef, gan ysgwyd eu pennau, a dywedyd, Och, tydi yr hwn wyt yn dinistrio'r deml, ac yn ei hadeiladu mewn tridiau,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y bobl oedd yn pasio heibio yn gwneud sbort am ei ben, ac yn hyrddio enllibion ato, “Felly! Ti sy'n mynd i ddinistrio'r deml a'i hadeiladu eto o fewn tri diwrnod!?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y rhai oedd yn mynd heibio yn ei gablu ef, gan ysgwyd eu pennau a dweud, "Oho, ti sydd am fwrw'r deml i lawr a'i hadeiladu mewn tridiau,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r rhai oedd yn myned heibio a'i cablasant ef, gan ysgwyd eu penau, a dywedyd, Ha! Tydi, yr hwn wyt yn tynu i lawr y Cysegr, ac yn ei adeiladu mewn tridiau,