Mark 15:31 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r vn ffynyt y gwatworoð ys yr Archoffeiriat, gan ðywedyt, yn y plith ehunain y gyd a’r Gwyr-llē, Ereill a waredawdd ef, ehun ny ddychon e ymwared.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr un ffunud yr archoffeiriaid hefyd, gan watwar yn eu plith eu hunain ynghyda’r ysgrifenyddion, a ddywedasant, Eraill a waredodd, Ef Ei Hun ni all Ei waredu:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr un modd yr archoffeiriaid hefyd a’i gwatwarai wrth ei gilydd gyda’r ysgrifenyddion, ac meddent, “Eraill a achubodd, ei hun ni all ei achub.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr un ffunud yr archoffeiriaid hefyd yn gwatwar, a ddywedasant wrth ei gilydd, gyda'r ysgrifenyddion, Eraill a waredodd, ei hun nis gall ei wared.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yno hefyd yn cael sbort ymhlith ei gilydd. “Roedd e'n achub pobl eraill,” medden nhw, “ond dydy e ddim yn gallu achub ei hun!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A'r un modd yr oedd y prif offeiriaid hefyd, ynghyd 'r ysgrifenyddion, yn ei watwar wrth ei gilydd, ac yn dweud, "Fe achubodd eraill; ni all ei achub ei hun.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr un modd yr Arch‐offeiriaid hefyd yn gwatwar yn eu plith eu hunain, gyd â'r Ysgrifenyddion, a ddywedasant, Eraill a waredodd efe, ei hun nid yw yn gallu ei wared.