Mark 15:32 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Descenet yr awrhon Christ Vrenhin yr Israel y lawer o’ r groc, val y gwelom, a’ chredy. A’r ei a grocesit gyd ac ef, a liwient yddaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y Crist, Brenhin Israel, disgyned yn awr oddiar y groes, fel y gwelom ac y credom. Ac y rhai yn cael eu croes-hoelio gydag Ef a’i gwaradwyddent!
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y Crist, Brenin Israel, disgynned yn awr oddiar y groes, fel y gwelom ac y credom.” A’r rhai a groeshoeliasid gydag ef oedd yn edliw iddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Disgynned Crist, Brenin yr Israel, yr awr hon oddi ar y groes, fel y gwelom, ac y credom. A'r rhai a groeshoeliesid gydag ef, a'i difenwasant ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Beth am i ni gael gweld y Meseia yma, Brenin Israel, yn dod i lawr oddi ar y groes. Gwnawn ni gredu wedyn!” Roedd hyd yn oed y rhai oedd wedi eu croeshoelio gydag e yn ei sarhau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Disgynned y Meseia, Brenin Israel, yn awr oddi ar y groes, er mwyn inni weld a chredu." Yr oedd hyd yn oed y rhai a groeshoeliwyd gydag ef yn ei wawdio.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Disgyned y Crist, Brenin Israel, yn wr oddiar y groes, fel y gwelom, ac y credom. A'r rhai oedd wedi eu croeshoelio gyd âg ef a'i difenwasant ef.