Mark 15:33 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A gwedy dyvot y chwechet awr, e gyfodes tywyllwch dros yr oll ddaiar yd y nawvet awr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan yr oedd hi y chweched awr, tywyllwch fu ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan ddaeth y chweched awr bu tywyllwch dros yr holl dir hyd y nawfed awr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddaeth y chweched awr, y bu tywyllwch ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
O ganol dydd hyd dri o'r gloch y p'nawn aeth yn hollol dywyll drwy'r wlad i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan ddaeth yn hanner dydd, bu tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri o'r gloch y prynhawn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan ddaeth y chweched awr, daeth tywyllwch dros yr holl ddaear hyd y nawfed.