Mark 15:34 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ar y nawvet awr y dolefawdd yr Iesu a llef vchel, can ddywedyt, Eloi, Eloi, lamma sabachthani? yr hyn yw o ei gyfiaithy? Vy‐Duw, vy‐Duw, paam im gwrthddodeist?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac ar y nawfed awr llefodd yr Iesu â llef fawr, Eloi, Eloi, lama shabacthani?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ar y nawfed awr dolefodd yr Iesu â llef uchel, “Eloi, Eloi, lama sabachthani?” hynny yw, o’i gyfieithu, “Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gadewaist?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ar y nawfed awr y dolefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd, Eloi, Eloi, lama sabachthani? yr hyn o'i gyfieithu yw, Fy Nuw, fy Nuw, paham y'm gadewaist?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna am dri o'r gloch gwaeddodd Iesu'n uchel, “Eloi, Eloi, lama sabachthani?” sy'n golygu, “Fy Nuw, fy Nuw, pam wyt ti wedi troi dy gefn arna i?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac am dri o'r gloch gwaeddodd Iesu llef uchel, "Elo, Elo, lema sabachthani", hynny yw, o'i gyfieithu, "Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac ar y nawfed awr y dolefodd yr Iesu â llef uchel, Eloi, Eloi, lama sabachthani: Yr hyn ydyw, wedi ei ddeongli, Fy Nuw, Fy Nuw, Paham yr wyt wedi fy ngadael!