Mark 15:35 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r ei oedd yn sefyll yno pan gwlywson hynny, a ddywedesont. Nycha, y mae ef yn galw Elias.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr hwn yw o’i gyfieithu, Fy Nuw, Fy Nuw, paham y’m gadewaist? A rhai o’r rhai oedd yn sefyll gerllaw, wedi clywed, a ddywedasant, Wele, ar Elias y geilw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A rhai o’r rhai oedd yn sefyll gerllaw, wrth ei glywed, a ddywedai, “Wele, mae’n galw ar Elïas.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhai o'r rhai a safent gerllaw, pan glywsant, a ddywedasant, Wele, y mae efe yn galw ar Eleias.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywodd rhai o'r bobl oedd yn sefyll yno hyn, “Ust!” medden nhw, “Mae'n galw ar y proffwyd Elias am help.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
O glywed hyn, meddai rhai o'r sawl oedd yn sefyll gerllaw, "Clywch, y mae'n galw ar Elias."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A rhai o'r rhai oedd wedi sefyll gerllaw, pan glywsant, a ddywedasant, Wele, Y mae efe yn galw Elias.