Mark 15:36 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac vn a redawdd, ac ac yspong yn llawn o vinegr, ac ei dodes ar gorsen, ac ei rhoes yddaw i yfet, can ddywedyt. Gadwch iddaw: gwelwn a ddaw Elias yw dynnu ef y lawr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan redeg o ryw un, a llenwi yspwng o finegr, ac ei ddodi am gorsen, diododd Ef, gan ddywedyd, Gadewch; gwelwn a ddaw Elias i’w dynnu Ef i lawr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A rhedodd rhywun, a llanwodd ysbwng â surwin, ac wedi ei roi ar flaen gwialen fe’i diodai, gan ddywedyd, “Gedwch i ni weled a ddaw Elïas i’w dynnu ef i lawr!”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac un a redodd, ac a lanwodd ysbwng yn llawn o finegr, ac a'i dododd ar gorsen, ac a'i diododd ef, gan ddywedyd, Peidiwch, edrychwn a ddaw Eleias i'w dynnu ef i lawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma un ohonyn nhw'n rhedeg ac yn trochi ysbwng mewn gwin sur rhad, a'i godi ar flaen ffon i'w gynnig i Iesu i'w yfed. “Gadewch lonydd iddo,” meddai, “i ni gael gweld os daw Elias i'w dynnu i lawr.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhedodd rhywun a llenwi ysbwng gwin sur a'i ddodi ar flaen gwialen a'i gynnig iddo i'w yfed. "Gadewch inni weld," meddai, "a ddaw Elias i'w dynnu ef i lawr."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A rhyw un a redodd, ac a lanwodd yspwng o finegr, ac a'i diododd ef, gan ddywedyd, Gadêwch: gwelwn os ydyw Elias yn dyfod i'w dynu ef i lawr.