Mark 15:39 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan weles y Cannwriat yr hwn oedd yn sefyll gyferbyn ac ef, lefain o honaw velly a’ gellwng yr yspryt, ef a ddyvot, Yn wir map Duw ytoedd y dyn hwn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan weled o’r canwriad a oedd yn sefyll gerllaw, gyferbyn ag Ef, mai felly y trengodd, dywedodd, Yn wir, y Dyn Hwn, Mab ydoedd i Dduw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan welodd y canwriad a safai gyferbyn ag ef mai felly y trengodd, fe ddywedodd, “Yn wir, yr oedd y dyn hwn yn fab i dduw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd y canwriad, yr hwn oedd yn sefyll gerllaw gyferbyn ag ef, ddarfod iddo yn llefain felly ymado â'r ysbryd, efe a ddywedodd, Yn wir Mab Duw oedd y dyn hwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd capten milwrol Rhufeinig yn sefyll yno wrth y groes. Pan welodd sut buodd Iesu farw, ei eiriau oedd, “Mab Duw oedd y dyn yma, reit siŵr!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd y canwriad, a oedd yn sefyll gyferbyn ag ef, mai gyda gwaedd felly y bu farw, dywedodd, "Yn wir, Mab Duw oedd y dyn hwn."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan welodd y Canwriad, yr hwn oedd yn sefyll gerllaw gyferbyn ag ef, iddo felly anadlu allan ei fywyd, efe a ddywedodd, Y dyn hwn oedd Fab Duw.