Mark 15:40 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ydd oedd gwraged yn tremio o hirbell, ym‐plith yr ei’n ydd oedd Mair Magdalen, a’ Mair (mam Iaco vachan ac Iose) a’ Salome,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yr oedd hefyd wragedd o hirbell, yn edrych, ymhlith y rhai yr oedd hefyd Mair Magdalen a Mair mam Iago fychan ac Iose,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr oedd hefyd wragedd yn edrych o bell, ac yn eu plith Mair o Fagdala, a Mair mam Iago Fychan ac Ioses, a Salome,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oedd hefyd wragedd yn edrych o hirbell: ymhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago fychan a Jose, a Salome;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd nifer o wragedd hefyd yn sefyll yn gwylio beth oedd yn digwydd o bell, gan gynnwys Mair Magdalen, Mair mam Iago bach a Joses, a hefyd Salome.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd gwragedd hefyd yn edrych o hirbell; yn eu plith yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago Fychan a Joses, a Salome,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr oedd yno wragedd hefyd, yn syllu o hirbell: yn mhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago Fychan a Joses, a Salome: