Mark 15:43 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yno Ioseph o Arimathaia cygcorwr gwiw, yr hwn oedd hefyt ynt ef ynedrych am deyrnas Duw, a ðeuth ac aeth y mewn yn hyderus at Pilatus, ac a archawdd gorph yr Iesu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr hwn yw’r dydd o flaen y Sabbath, wedi dyfod o Ioseph o Arimathea, cynghorwr pendefigaidd, yr hwn hefyd oedd yn disgwyl am deyrnas Dduw, wedi cymmeryd hyder yr aeth i mewn at Pilat, a deisyfiodd gorph yr Iesu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fe ddaeth Ioseph o Arimathea, cynghorwr bonheddig, oedd yntau yn disgwyl am deyrnas Dduw, ac ymwrolodd ac aeth i mewn at Bilat, a gofyn am gorff yr Iesu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Daeth Joseff o Arimathea, cynghorwr pendefigaidd, yr hwn oedd yntau yn disgwyl am deyrnas Dduw, ac a aeth yn hy i mewn at Peilat, ac a ddeisyfodd gorff yr Iesu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
aeth un o aelodau blaenllaw y Sanhedrin i weld Peilat — dyn o'r enw Joseff oedd yn dod o Arimathea. Roedd Joseff yn ddyn duwiol oedd yn disgwyl am deyrnasiad Duw, a gofynnodd i Peilat am ganiatâd i gymryd corff Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
daeth Joseff o Arimathea, cynghorwr uchel ei barch a oedd yntau'n disgwyl am deyrnas Dduw, a mentrodd fynd i mewn at Pilat a gofyn am gorff Iesu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
daeth Joseph o Arimathea, Cynghorwr o sefyllfa anrhydeddus, yr hwn hefyd ei hun oedd yn dysgwyl Teyrnas Dduw, ac a aeth yn hyf i mewn at Pilat, ac a ddeisyfodd gorff yr Iesu.