Mark 15:44 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ rhyveddy a wnaeth Pilatus, a vesei e varw eisius, ac a alwodd ataw y Cannwriad ac a ’ovynawdd iddaw a oedd ne‐mawr er pan vesei ef varw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A Pilat a ryfeddodd a fu Efe eisoes farw; ac wedi galw atto y canwriad, gofynodd iddo a oedd Efe wedi marw er ys meityn;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A rhyfeddodd Pilat ei farw eisoes; ac wedi galw’r canwriad ato fe ofynnodd iddo a fuasai farw eisoes;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhyfedd oedd gan Peilat o buasai efe farw eisoes: ac wedi iddo alw y canwriad ato, efe a ofynnodd iddo a oedd efe wedi marw ers meitin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Peilat yn methu credu bod Iesu eisoes wedi marw, a galwodd am y capten a gofyn iddo os oedd wedi marw ers peth amser.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhyfeddodd Pilat ei fod eisoes wedi marw, a galwodd y canwriad ato a gofyn iddo a oedd wedi marw ers meitin.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Philat a ryfeddodd ei fod wedi marw eisioes; ac efe a alwodd ato y Canwriad, ac a ofynodd iddo os oedd efe wedi marw yn barod.