Mark 15:46 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yr hwn a brynawð liain, ac ei tynnawdd ef i lawr, ac ei amwiscawdd yn y lliain, ac ei dodes ef mewn monwent a na ddesit o graic, ac a dreiglawdd vaen ar ddrws y vonwent:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi prynu o hono liain main, a’i dynu Ef i lawr, amdôdd Ioseph Ef yn y lliain main, a dododd Ef mewn bedd a naddasid o’r graig; a threiglodd faen ar ddrws y bedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phrynodd yntau lenllïain; ac wedi iddo’i dynnu i lawr fe’i hamdôdd yn y llenllïain, a dododd ef mewn bedd oedd wedi ei naddu o’r graig, a threiglodd faen ar ddrws y bedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a brynodd liain main, ac a'i tynnodd ef i lawr, ac a'i hamdôdd yn y lliain main, ac a'i dododd ef mewn bedd a naddasid o'r graig; ac a dreiglodd faen ar ddrws y bedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl prynu lliain dyma Joseff yn tynnu'r corff i lawr a'i lapio yn y lliain. Yna fe'i rhoddodd i orwedd mewn bedd oedd wedi ei naddu yn y graig. Wedyn rholiodd garreg dros geg y bedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Prynodd yntau liain, ac wedi ei dynnu ef i lawr, a'i amdi yn y lliain, gosododd ef mewn bedd oedd wedi ei naddu o'r graig; a threiglodd faen ar ddrws y bedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a brynodd lian costfawr, a chan ei dynu ef i lawr, efe a'i hamdôdd ef yn y llian, ac a'i gosododd ef mewn bedd a naddesid allan o'r graig; ac a dreiglodd gareg ar ddrws y bedd.