Mark 15:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ydd oedd vn a elwit Barabbas, yr hwn oedd yn rhwym gyd ei gyd dervyscwyr, ac yn y dervysc a wnaethent laddiat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
y rhai yn y derfysg a wnaethent lofruddiaeth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yr oedd un a elwid Barabbas yn rhwym gyda’r gwrthryfelwyr — rhai a wnaethai lofruddiaeth yn y gwrthryfel.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oedd un a elwid Barabbas, yr hwn oedd yn rhwym gyda'i gyd‐derfysgwyr, y rhai yn y derfysg a wnaethent lofruddiaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd dyn o'r enw Barabbas yn y carchar — un o'r terfysgwyr oedd yn euog o lofruddiaeth adeg y gwrthryfel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yr oedd y dyn a elwid Barabbas yn y carchar gyda'r gwrthryfelwyr hynny oedd wedi llofruddio yn ystod y gwrthryfel.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr oedd un a elwid Barabbas, yr hwn oedd wedi ei garcharu gyd â'r rhai oeddynt wrthryfelwyr, y cyfryw oeddynt wedi gwneyd llofruddiaeth yn y gwrthryfel.