Mark 16:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan glywsant y vot ef yn vyw, ac yddy hi y weled ef, ny chredesant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hwythau, wedi clywed Ei fod yn fyw ac y gwelwyd ganddi, a anghoeliasant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a’r rheini pan glywsant ei fod yn fyw, a’i weled ganddi, a anghredasant.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwythau, pan glywsant ei fod ef yn fyw, ac iddi hi ei weled ef, ni chredent.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddwedodd hi fod Iesu'n fyw a'i bod hi wedi ei weld, doedden nhw ddim yn ei chredu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A'r rheini, pan glywsant ei fod yn fyw ac wedi ei weld ganddi hi, ni chredasant.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a hwynt‐hwy, pan glywsant ei fod ef yn fyw, a'i weled o hono ganddi, a anghredasant.