Mark 16:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwedy hyny, yr ymddangosawdd ef y ddau o hanynt mewn ffurf arall, a’ hwy yn gorymðaith ac yn myned i’r ’wlad.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi y pethau hyn, i ddau o honynt, yn ymdeithio, yr amlygwyd Ef mewn gwedd arall, wrth fyned o honynt i’r wlad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi hynny i ddau ohonynt yr ymddangosodd mewn ffurf arall, a hwy yn cerdded ar eu ffordd i’r wlad;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi hynny yr ymddangosodd efe mewn gwedd arall i ddau ohonynt, a hwynt yn ymdeithio, ac yn myned i'r wlad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dangosodd ei hun wedyn, mewn ffurf wahanol, i ddau o'i ddilynwyr oedd ar eu ffordd o Jerwsalem i'r wlad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar l hynny, ymddangosodd mewn ffurf arall i ddau ohonynt fel yr oeddent yn cerdded ar eu ffordd i'r wlad;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond ar ol y pethau hyn, efe a amlygwyd mewn ffurf wahanol i ddau o honynt, fel yr ymdeithient ac yr aethent i'r wlad.