Mark 16:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy aethant ac a venagesont ir relyw o hanynt, and ny d oeddent yn ei credu vvy chvvaith. Yr Euangel ar ddydd y Derchavel.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hwy, wedi myned ymaith, a fynegasant i’r lleill, ac iddynt hwy ni chredent.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac aeth y rheini ymaith, a mynegasant i’r gweddill; ond i’r rheini chwaith ni chredasant.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a aethant, ac a fynegasant i'r lleill: ac ni chredent iddynt hwythau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw hefyd yn brysio'n ôl i Jerwsalem i ddweud wrth y lleill; ond doedden nhw ddim yn eu credu nhw chwaith.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac aethant hwy ymaith a dweud y newydd wrth y lleill. Ond ni chredodd neb y rheini chwaith.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwythau a aethant ymaith, ac a fynegasant i'r gweddill: ac ni chredasant iddynt hwythau.