Mark 16:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ Yn ol hyny yr ymðangosoð ef ir vn ar ddec val ydd oeddent yn cydeistedd, ac a roes yn y herbyn am e ancrediniaeth a chaledwch ei calonnae can na’s credent yr ei y gwelsent ef, wedy gyvody.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chwedi’n, i’r un ar ddeg eu hunain yn eu lled-orwedd wrth y ford yr amlygwyd Ef, a dannododd iddynt eu hanghrediniaeth a’u calon-galedwch, gan mai i’r rhai a’i gwelsent Ef wedi adgyfodi, na roisent gred;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yn ddiweddarach fe ymddangosodd i’r un-ar-ddeg, a hwythau ar bryd bwyd, ac edliwiodd iddynt eu hanghrediniaeth a’u cyndynrwydd, am na chredasent i’r rhai a’i gwelsai wedi cyfodi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ar ôl hynny efe a ymddangosodd i'r un ar ddeg, a hwy yn eistedd i fwyta; ac a ddanododd iddynt eu hanghrediniaeth a'u calon‐galedwch, am na chredasent y rhai a'i gwelsent ef wedi atgyfodi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn nes ymlaen dangosodd Iesu ei hun i'r unarddeg disgybl pan oedden nhw'n cael pryd o fwyd. Ar ôl dweud y drefn wrthyn nhw am fod mor ystyfnig yn gwrthod credu y rhai oedd wedi ei weld ar ôl iddo ddod yn ôl yn fyw,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn ddiweddarach, ymddangosodd i'r un ar ddeg pan oeddent wrth bryd bwyd, ac edliw iddynt eu hanghrediniaeth a'u hystyfnigrwydd, am iddynt beidio chredu y rhai oedd wedi ei weld ef ar l ei gyfodi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn ddiweddarach, efe a amlygwyd i'r Un‐ar‐Ddeg eu hunain, fel yr eisteddent i fwyta, ac efe a warthruddodd eu hanghrediniaeth a'u calon‐galedwch, am na chredasant y rhai a'i gwelsant ef wedi iddo gael ei gyfodi.