Mark 16:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ðyvot wrthwynt, Ewch ir oll vyt, a’ phrecethwch yr Euangel i bop creatur.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a dywedodd wrthynt, Wedi myned o honoch i’r holl fyd, pregethwch yr Efengyl i’r holl greadigaeth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd wrthynt, “Ewch i’r holl fyd, a phregethwch yr efengyl i bob creadur.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch i'r holl fyd, a phregethwch yr efengyl i bob creadur.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
dwedodd wrthyn nhw, “Ewch i gyhoeddi'r newyddion da i bawb drwy'r byd i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd wrthynt, "Ewch i'r holl fyd a phregethwch yr Efengyl i'r greadigaeth i gyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A dywedodd efe wrthynt, Ewch i'r holl fyd, A phregethwch yr Efengyl i'r holl greadigaeth: