Mark 16:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac a dd yrrant ymaith seirph, ac a’s yfant ddim marwol, ny wna niwet yddynt: ar y cleifion y dodāt ei dwylaw, ac wy a ant yn iach.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a thafodau newyddion y llefarant; seirph a godant hwy; ac os dim marwol a yfant, ni wna iddynt ddim niweid; ar gleifion eu dwylaw a roddant, ac iacheir hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
mewn seirff y gafaelant; ac os yfant beth marwol nis niweidia hwynt ddim; ar gleifion y dodant ddwylo, ac iach fyddant.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Seirff a godant ymaith; ac os yfant ddim marwol, ni wna iddynt ddim niwed; ar y cleifion y rhoddant eu dwylo, a hwy a fyddant iach.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddan nhw'n gallu gafael mewn nadroedd; ac os byddan nhw'n yfed gwenwyn, fyddan nhw ddim yn dioddef o gwbl; byddan nhw'n gosod eu dwylo ar bobl sy'n glaf, a'u hiacháu nhw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
gafaelant mewn seirff, ac os yfant wenwyn marwol ni wna ddim niwed iddynt; rhoddant eu dwylo ar gleifion, ac iach fyddant."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac yn eu dwylaw y codant seirff i fyny; ac os yfant ddim marwol ni wna iddynt ddim niwed; ar y cleifion y gosodant eu dwylaw, a hwy a fyddant iach.