Mark 16:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac velly yn dra bore, y dydd cyntaf o’r wythnos y daethant ir vonwent a’r haul yn codi,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn fore iawn, y dydd cyntaf o’r wythnos, daethant at y bedd, ar ol codiad yr haul;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yn fore iawn y dydd cyntaf o’r wythnos deuant at y bedd, a’r haul wedi codi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn fore iawn, y dydd cyntaf o'r wythnos, y daethant at y bedd, a'r haul wedi codi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna'n gynnar iawn ar y bore Sul, pan oedd hi yn gwawrio, dyma nhw'n mynd at y bedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yn fore iawn ar y dydd cyntaf o'r wythnos, a'r haul newydd godi, dyma hwy'n dod at y bedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn fore iawn ar y Dydd Cyntaf o'r wythnos, y maent yn dyfod at y bedd, a'r haul wedi codi.