Mark 16:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy aethant rhacðwynt, ac a precethesont ympop lle. A’r Arglwydd a gydweithiawð ac wynt, ac a gadarnhaodd y gair ac arwyddion yn arganlyn,.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hwythau, wedi myned allan, a bregethasant ym mhob man, yr Arglwydd yn cydweithio ac yn cadarnhau y Gair trwy’r arwyddion a oedd yn canlyn. Amen.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Aethant hwythau allan, a phregethasant ym mhobman, a’r Arglwydd yn cydweithio, ac yn cadarnhau’r gair trwy’r arwyddion a ddilynai. Ond y cwbl a orchmynnwyd iddynt a fynegasant ar fyr eiriau i Bedr a’r rhai oedd gydag ef. Ac wedi hynny yr Iesu ei hunan a anfonodd trwyddynt hwy, o ddwyrain hyd orllewin, santaidd ac anllygradwy genadwri’r dragwyddol iechydwriaeth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwythau a aethant allan, ac a bregethasant ym mhob man, a'r Arglwydd yn cydweithio, ac yn cadarnhau'r gair, trwy arwyddion y rhai oedd yn canlyn. Amen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
O hynny ymlaen aeth y disgyblion allan i bregethu ym mhob man. Roedd yr Arglwydd yn gweithio gyda nhw, ac yn cadarnhau fod y neges yn wir drwy'r arwyddion gwyrthiol oedd yn digwydd yr un pryd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac aethant hwy allan a phregethu ym mhob man, a'r Arglwydd yn cydweithio hwy ac yn cadarnhau'r gair trwy'r arwyddion oedd yn dilyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwythau a aethant allan, ac a bregethasant yn mhob man, a'r Arglwydd yn cyd‐weithio, ac yn cadarnhâu y Gair, trwy yr arwyddion oeddynt yn canlyn.]