Mark 16:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan edrychesant, wy welsant ddar vot adtreiglo y llech (o bleit ydd oedd hi yn vawr iawn.)
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
(Ac wedi edrych i fynu gwelsant y treiglasid y maen ymaith,) canys yr oedd efe yn fawr iawn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond erbyn codi eu golwg, sylwant fod y maen wedi ei dreiglo’n ol — yr oedd yn un mawr anferth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
(A phan edrychasant, hwy a ganfuant fod y maen wedi ei dreiglo ymaith;) canys yr oedd efe yn fawr iawn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond pan gyrhaeddon nhw'r bedd dyma nhw'n gweld fod y garreg, oedd yn un drom iawn, eisoes wedi ei rholio i ffwrdd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond wedi edrych i fyny, gwelsant fod y maen wedi ei dreiglo i ffwrdd; oherwydd yr oedd yn un mawr iawn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi edrych i fyny, y maent yn dal sylw fod y maen wedi ei dreiglo yn ol; canys yr oedd efe yn fawr iawn.