Mark 16:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd aethant y mevvn ir vonwent, ac y gwelsant wr‐ieuāc yn eistedd o’r tu deheu, wedyr ’r wiscaw mewn ystola gannaid: ac wy a ofnesont.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi myned i mewn i’r bedd, gwelsant ŵr ieuangc yn eistedd o’r tu dehau, wedi ei ddilladu â gwisg wen; a synnasant yn ddirfawr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi mynd i mewn i’r bedd gwelsant ddyn ieuanc yn eistedd ar y ddeheu, ag amdano wisg wenllaes, ac arswydasant.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddynt fyned i mewn i'r bedd, hwy a welsant fab ieuanc yn eistedd o'r tu deau, wedi ei ddilladu â gwisg wenllaes; ac a ddychrynasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth gamu i mewn i'r bedd, dyma nhw'n dychryn, achos roedd dyn ifanc yn gwisgo mantell wen yn eistedd yno ar yr ochr dde.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aethant i mewn i'r bedd, a gwelsant ddyn ifanc yn eistedd ar yr ochr dde, a gwisg laes wen amdano, a daeth arswyd arnynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddynt fyned i mewn i'r bedd, hwy a welsant ddyn ieuanc yn eistedd o'r tu deheu, ac yr oedd am dano wisg wen: a hwy a gawsant ddychryn.