Mark 16:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddyuot wrthynt, Nac ofnwch: caisio ydd ych Iesu o Nazaret, yr hwn a grogwyt: e gyuodes, ny d yw ef yma n: nycha y man lle y dodesent vvy ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac efe a ddywedodd wrthynt, na ddirfawr-synnwch: yr Iesu yr ydych yn Ei geisio, y Natsaread, yr Hwn a groes-hoeliwyd. Cyfododd; nid yw Efe yma: wele y lle y dodasant Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd yntau wrthynt, “Nac arswydwch; Iesu a geisiwch, y Nasaread croeshoeliedig; fe gyfododd; nid yw yma; dyma’r fan y dodasant ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na ddychrynwch. Ceisio yr ydych yr Iesu o Nasareth, yr hwn a groeshoeliwyd: efe a gyfododd; nid yw efe yma: wele y man y dodasant ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Peidiwch dychryn,” meddai wrthyn nhw. “Dych chi'n edrych am Iesu o Nasareth gafodd ei groeshoelio. Mae wedi dod yn ôl yn fyw! Dydy e ddim yma. Edrychwch, dyma lle cafodd ei gorff ei roi i orwedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai yntau wrthynt, "Peidiwch ag arswydo. Yr ydych yn ceisio Iesu, y gu373?r o Nasareth a groeshoeliwyd. Y mae wedi ei gyfodi; nid yw yma; dyma'r man lle gosodasant ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywed wrthynt, Na ddychrynwch. Yr ydych yn ceisio Iesu o Nazareth, yr hwn a groeshoelwyd: efe a gyfododd: nid yw efe yma: wele y man y dodasant ef.