Mark 16:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr ewch ymaith, a’ dywedwch y’w ddyscipulon, ac i Petr, ydd a ef och blaen i’r Galilaia: yno y gwelwch ef, megis y dyuot ef y chwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr ewch ymaith; dywedwch wrth Ei ddisgyblion, ac wrth Petr, Myned o’ch blaen chwi i Galilea y mae; yno Ef a welwch, fel y dywedodd wrthych.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond ewch, dywedwch wrth ei ddisgyblion ac wrth Bedr, ‘Y mae ef yn myned o’ch blaen i Galilea; yno y gwelwch ef, fel y dywedodd wrthych.’ ”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr ewch ymaith, dywedwch i'w ddisgyblion ef, ac i Pedr, ei fod ef yn myned o'ch blaen chwi i Galilea: yno y cewch ei weled ef, fel y dywedodd i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ewch, a dweud wrth ei ddisgyblion a Pedr, ‘Mae Iesu'n mynd i Galilea o'ch blaen chi. Cewch ei weld yno, yn union fel roedd wedi dweud.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond ewch, dywedwch wrth ei ddisgyblion ac wrth Pedr. 'Y mae'n mynd o'ch blaen chwi i Galilea; yno y gwelwch ef, fel y dywedodd wrthych.'"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr ewch ymaith: dywedwch i'w Ddysgyblion ef ac i Petr, ei fod ef yn myned o'ch blaen chwi i Galilea: yno chwi a'i gwelwch ef, fel y dywedodd i chwi.