Mark 16:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy the aethant allan ar ffrwst, ac a giliesont ywrth y vonwent: can ys‐dechryn ac irdang oedd ynthynt: ac ny ddywedesont ddim wrth neb un: can ys ofnesynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi myned allan, ffoisant oddiwrth y bedd, canys yr oedd arnynt grynfa a syndod; ac wrth neb ni ddywedasant ddim, canys dychrynwyd hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aethant allan, a ffoesant oddiwrth y bedd, canys yr oedd arnynt ddychryn a syfrdandod. Ac ni ddywedasant ddim wrth neb; canys ofnent —
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi myned allan ar frys, hwy a ffoesant oddi wrth y bedd; canys dychryn a syndod oedd arnynt. Ac ni ddywedasant ddim wrth neb: canys yr oeddynt wedi ofni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r gwragedd yn mynd allan ac yn rhedeg oddi wrth y bedd, yn crynu drwyddynt ac mewn dryswch. Roedd ganddyn nhw ofn dweud wrth unrhyw un am y peth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daethant allan, a ffoi oddi wrth y bedd, oherwydd yr oeddent yn crynu o arswyd. Ac ni ddywedasant ddim wrth neb, oherwydd yr oedd ofn arnynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy, wedi myned allan, a ffoisant oddiwrth y bedd; canys cryndod a syndod a'u goddiweddodd: ac ni ddywedasant ddim wrth neb; canys yr oeddynt yn ofni.