Mark 16:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy ad cyvody yr Iesu, y borae (yr hwn yd oedd y dydd cyntaf o’r wythnos) ef a ymðangoses yn gyntaf i Vair Vagdalen, o’r hon y bwriesei ef allan saith gythrael.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi adgyfodi yn fore ar y dydd cyntaf o’r wythnos, ymddangosodd yn gyntaf i Mair Magdalen, o’r hon y bwriasai allan saith o gythreuliaid;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi cyfodi ohono yn fore y dydd cyntaf o’r wythnos, fe ymddangosodd gyntaf i Fair o Fagdala, y bwriasai ohoni saith o gythreuliaid.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu, wedi atgyfodi y bore y dydd cyntaf o'r wythnos, a ymddangosodd yn gyntaf i Mair Magdalen, o'r hon y bwriasai efe allan saith o gythreuliaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddaeth Iesu yn ôl yn fyw yn gynnar ar y bore Sul, dangosodd ei hun gyntaf i Mair Magdalen, y wraig y bwriodd saith o gythreuliaid allan ohoni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar l atgyfodi yn fore ar y dydd cyntaf o'r wythnos, ymddangosodd yn gyntaf i Fair Magdalen, gwraig yr oedd wedi bwrw saith gythraul ohoni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
[Ac wedi ei adgyfodi yn fore y Dydd Cyntaf o'r wythnos, efe a ymddangosodd yn gyntaf i Mair Magdalen, o'r hon yr oedd efe wedi bwrw allan saith o gythreuliaid.