Mark 2:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
GWedy ychydic ddyddiae, ef aeth y mewn i Capernaum dragefyn, ac a glypwyt y vot ef yn tuy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi myned trachefn i Caphernahwm wedi rhai dyddiau, clybuwyd Ei fod mewn tŷ;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi iddo fynd drachefn i Gapernaum ymhen dyddiau, clywyd ei fod yn tŷ.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a aeth drachefn i Gapernaum, wedi rhai dyddiau; a chlybuwyd ei fod ef yn tŷ.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ychydig ddyddiau wedyn, aeth Iesu yn ôl i Capernaum. Aeth y si o gwmpas ei fod wedi dod adre,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddychwelodd i Gapernaum ymhen rhai dyddiau, aeth y newydd ar led ei fod gartref.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a aeth drachefn i Capernaum wedi rhai dyddiau, a chlybuwyd ei fod ef yn y ty;