Mark 2:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn y man y cyfodes, ac y cymerth ei ’lwth ymaith, ac aeth allan yn y gwydd wy oll, yn y sannawdd a’r bawp, a’ gogoneðy Duw, gā dywedyt, Er ioed ny welsam ni cyfryw beth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chyfododd efe; ac yn uniawn wedi cymmeryd i fynu ei orweddfa, yr aeth allan yngwydd pawb, fel y synnodd pawb, ac y gogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, nis gwelsom erioed fel hyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chyfododd, ac yna cymerth ei wely, ac aeth ymaith yng ngŵydd pawb, nes synnu o bawb, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, “Ni welsom erioed y fath beth.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn y man y cyfododd efe, ac y cymerth i fyny ei wely, ac a aeth allan yn eu gŵydd hwynt oll; hyd oni synnodd pawb, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, Ni welsom ni erioed fel hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyna'n union wnaeth y dyn! Cododd ar ei draed yn y fan a'r lle, cymryd ei fatras, a cherdded allan o flaen pawb. Roedd pawb wedi eu syfrdanu'n llwyr, ac yn moli Duw. “Dŷn ni erioed wedi gweld dim byd tebyg i hyn!” medden nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chododd y dyn, cymryd ei fatras ar ei union a mynd allan yn eu gu373?ydd hwy oll, nes bod pawb yn synnu ac yn gogoneddu Duw gan ddweud, "Ni welsom erioed y fath beth."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a gyfododd, ac yn ebrwydd y cymmerodd i fyny ei wely, ac a aeth allan yn eu gwydd hwynt oll; hyd oni synodd pawb, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, Ni welsom ni erioed fel hyn.