Mark 2:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ Yno ydd aeth ef drachefyn parth a’r mor, a’r oll popul a dynnawdd ataw, ac ef a ei dyscawdd hvvy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac aeth allan drachefn wrth lan y môr: a’r holl dyrfa a ddaeth Atto, a dysgodd Efe hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aeth allan drachefn i lan y môr; a’r holl dyrfa a ddeuai ato, a dysgai yntau hwynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a aeth allan drachefn wrth lan y môr: a'r holl dyrfa a ddaeth ato; ac efe a'u dysgodd hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth Iesu allan at y llyn unwaith eto. Daeth tyrfa fawr o bobl ato, ac roedd yn eu dysgu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth allan eto i lan y mr; ac yr oedd yr holl dyrfa'n dod ato, ac yntau'n eu dysgu hwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a aeth allan drachefn wrth làn y môr: a'r holl dyrfa oedd yn dyfod ato, ac efe a'u dysgodd hwynt.