Mark 2:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac val ydd aeth yr Iesu heibio, ef a’ welawð Levi vap Alphaeus yn eistedd wrth y dollfa, ac a ddyvot wrthaw, dylyd vi. Ac ef a godes, ac ei dylynawdd ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wrth fyned heibio gwelodd Lefi fab Alphëus, yn ei eistedd wrth y dollfa, a dywedodd wrtho, Canlyn Fi; ac wedi codi o hono, canlynodd Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wrth fynd heibio gwelodd Lefi fab Alpheus yn eistedd wrth y dollfa, a dywed wrtho, “Dilyn fi.” A chyfododd yntau a dilynodd ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe yn myned heibio, efe a ganfu Lefi fab Alffeus yn eistedd wrth y dollfa, ac a ddywedodd wrtho, Canlyn fi. Ac efe a gododd, ac a'i canlynodd ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna wrth fynd yn ei flaen, gwelodd Lefi fab Alffeus yn eistedd yn y swyddfa dollau lle roedd yn gweithio. “Tyrd, dilyn fi,” meddai Iesu wrtho; a chododd Lefi ar unwaith a mynd ar ei ôl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac wrth fynd heibio gwelodd Lefi fab Alffeus yn eistedd wrth y dollfa, a dywedodd wrtho, "Canlyn fi." Cododd yntau a chanlynodd ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe yn myned rhagddo, efe a ganfu Lefi, mab Alpheüs, yn eistedd wrth y dollfa, ac efe a ddywed wrtho, Canlyn fi. Ac efe a gyfododd ac a'i canlynodd ef.