Mark 2:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac e ddarvu a’r Iesu yn eistedd i vwyta yn y duy ef, Publicanieit lawer, a’ phechaturieit a eisteddesont a gyd a’r Iesu, a’ ei ddiscipulon: can ys yr oeð llawer ac yn y ðylyn ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bu lled-orwedd o Hono wrth y ford yn ei dŷ ef, a llawer o dreth-gymmerwyr a phechaduriaid a led-orweddent ynghyda’r Iesu a’i ddisgyblion, canys yr oedd llawer o honynt, a chanlynent Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac fe ddigwydd ei fod ar bryd bwyd yn ei dŷ; a llawer o dollwyr a phechaduriaid oedd yn cyd-fwyta â’r Iesu a’i ddisgyblion; canys yr oeddynt yn llawer, a dilynent ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu, a'r Iesu yn eistedd i fwyta yn ei dŷ ef, i lawer hefyd o bublicanod a phechaduriaid eistedd gyda'r Iesu a'i ddisgyblion; canys llawer oeddynt, a hwy a'i canlynasent ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn nes ymlaen aeth Iesu a'i ddisgyblion am bryd o fwyd i dŷ Lefi. Roedd criw mawr o'r rhai oedd yn casglu trethi i Rufain a phobl eraill roedd y Phariseaid yn eu hystyried yn ‛bechaduriaid‛ yn y parti hefyd. (Pobl felly oedd llawer o'r rhai oedd yn dilyn Iesu).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yr oedd wrth bryd bwyd yn ei du375?, ac yr oedd llawer o gasglwyr trethi ac o bechaduriaid yn cydfwyta gyda Iesu a'i ddisgyblion oherwydd yr oedd llawer ohonynt yn ei ganlyn ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A dygwydd iddo eistedd i fwyta yn ei dŷ ef, a llawer o Drethgasglwyr a phechaduriaid a eisteddasant gyda'r Iesu a'i Ddysgyblion: canys llawer oeddynt.