Mark 2:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan welawð y Gwyr‐llen a’r Pharisaieit, y dywedesont wrth ei ddiscipulon ef, Paam yw iddaw vwyta ac yfet y gyd a Publicanot a’ Phecaturieit?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac ysgrifenyddion y Pharisheaid, yn gweled Ei fod yn bwytta ynghyda’r pechaduriaid a threth-gymmerwyr, a ddywedasant wrth Ei ddisgyblion, Ynghyda threth-gymmerwyr a phechaduriaid y bwytty ac yr yf Efe.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r ysgrifenyddion o blith y Phariseaid, yn gweled ei fod yn bwyta gyda’r pechaduriaid a’r tollwyr, a ddywedai wrth ei ddisgyblion, “Paham y mae’n bwyta gyda’r tollwyr a’r pechaduriaid?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid ef yn bwyta gyda'r publicanod a'r pechaduriaid, hwy a ddywedasant wrth ei ddisgyblion ef, Paham y mae efe yn bwyta ac yn yfed gyda'r publicanod a'r pechaduriaid?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth iddyn nhw ei weld e'n bwyta gyda ‛pechaduriaid‛ a casglwyr trethi, dyma rai o'r Phariseaid oedd yn arbenigwyr yn y Gyfraith yn gofyn i'w ddisgyblion: “Pam mae e'n bwyta gyda'r bradwyr sy'n casglu trethi i Rufain, a phobl eraill sy'n ddim byd ond ‛pechaduriaid‛?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan welodd yr ysgrifenyddion o blith y Phariseaid ei fod yn bwyta gyda'r pechaduriaid a'r casglwyr trethi, dywedasant wrth ei ddisgyblion, "Pam y mae ef yn bwyta gyda chasglwyr trethi a phechaduriaid?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Ysgrifenyddion o'r Phariseaid hefyd a'i canlynent: ac yn gweled ei fod yn bwyta gyda'r pechaduriaid a'r Trethgasglwyr, hwy a ddywedasant wrth ei Ddysgyblion ef, Y mae efe yn bwyta [ac yn yfed] gyda y Trethgasglwyr a'r pechaduriaid.